Comisiwn y Cynulliad |
Lleoliad: |
Ystafell Gynhadledd 4B - Tŷ Hywel |
|
|
|||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 3 Tachwedd 2016 |
|
||||
Amser: |
15.00 - 16.50 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: AC(5)2016(5) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AC (Cadeirydd) Suzy Davies AC Caroline Jones AC Adam Price AC Joyce Watson AC |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Non Gwilym, Head of Communications Gwion Evans, Head of Presiding Officer's Private Office Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.1 Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1.2 Datganiad o fuddiant
Ni chafwyd datganiadau o fuddiant.
1.3 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi.
2 Capasiti Ystâd y Cynulliad yn y dyfodol
Trafododd y Comisiynwyr faterion sy'n gysylltiedig â chapasiti ystâd y Cynulliad yn y tymor byr a'r tymor hwy. Maent yn cefnogi'r gwaith i wella darpariaeth o ran ystafelloedd pwyllgora a chytunwyd y dylid trafod yr opsiynau i alluogi penderfyniadau yn y dyfodol.
3 Adroddiad Comisiwn y Pedwerydd Cynulliad "Dyfodol y Cynulliad: sicrhau capasiti i gyflawni ar gyfer Cymru” a Bil Cymru
Cafodd y Comisiynwyr eu briffio ynghylch gwaith y Comisiwn yn y Cynulliad diwethaf o ran y cyfyngiadau ar gapasiti'r sefydliad a'r casgliadau y daethpwyd iddynt. Hefyd, fe'u hysbyswyd am y sefyllfa bresennol ac am hyd a lled y pwerau sy'n cael eu datganoli o dan Fil Cymru sydd ar hyn o bryd yn cael ei drafod yn San Steffan.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r Llywydd drafod y materion hyn ymhellach o ran ceisio eu symud ymlaen.
4 Ymgysylltu â'r cyhoedd - Senedd Ieuenctid a gwybodaeth ddigidol
Cafodd y Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am gynigion i sefydlu senedd ieuenctid newydd i Gymru a datblygu Tasglu Newyddion a Gwybodaeth Ddigidol. Mae’r ddwy fenter allweddol hyn ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd yn rhan o strategaeth y Comisiwn.
Cytunodd y Comisiynwyr i ddatblygu cynlluniau ar gyfer senedd ieuenctid ac ymgynghori arnynt yn gynnar yn 2017, gyda'r bwriad o ganfod ein seneddwyr ifanc cyntaf yn ail hanner y flwyddyn a chynnal cyfarfod cyntaf y senedd ieuenctid yn 2018. Yn benodol, yn y datblygiad hwn, roeddent yn awyddus y dylid ystyried yn benodol sut i gyrraedd y bobl nad ydynt fel arfer yn ymateb i ymgynghoriadau.
Trafododd y Comisiynwyr y cynlluniau ar gyfer y tasglu newyddion a gwybodaeth ddigidol, a chafwyd cefnogaeth ar gyfer y gwaith y bydd yn ei wneud er mwyn gwneud argymhellion ar gyfer y dyfodol.
Bydd rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r ddwy fenter yn rhan o'r drafodaeth ehangach am strategaeth ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd ddechrau'r flwyddyn newydd.
5 Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2017-18 - ymateb i waith craffu ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid
Cafodd y Comisiwn wybodaeth am hynt proses cyllideb y Comisiwn, gan gynnwys gwaith craffu gan y Pwyllgor Cyllid. Croesawodd y Comisiynwyr ddull adeiladol y Pwyllgor Cyllid a'r ffaith i'r Pwyllgor gydnabod yr ansicrwydd ynghylch lefelau ariannu ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Cytunodd y Comisiwn ar ei ymateb i argymhellion y Pwyllgor Cyllid a nododd y ffaith y caiff dogfen y gyllideb derfynol ei gosod ar 9 Tachwedd 2016.
6 Unrhyw fater arall
Trafododd y Comisiynwyr rai materion amserol.